Prosiect mamaliaid morol Enlli - Cysylltu pobl â'r môr

Mae Gwylfa Adar a Maes Ynys Enlli yn falch iawn o gyhoeddi prosiect newydd yn seiliedig ar y mamaliaid morol a geir ar yr ynys ac o’i chwmpas.

 

Prosiect mamaliaid morol Enlli - Cysylltu pobl â'r môr


Bardsey marine mammal project - Connecting people with the sea



Saif Enlli yng nghanol ardal bwysig i famaliaid morol:

 

O’i hamgylch mae Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Gorllewin Cymru a ddynodwyd am ei lamhidyddion, ac ACA Pen Llŷn a’r Sarnau sydd â dolffiniaid trwyn potel a morloi llwyd yn nodweddion ohoni. Mae’r morloi llwyd hefyd yn nodwedd o Ddynodiad Enlli fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol. 

 


Hefyd, gwelir dolffiniaid Risso yn rheolaidd; maen nhw wedi bod yn bwnc astudiaethau tymor hir gan gyrff megis Cadwraeth Morfilod a Dolffiniaid mewn cydweithrediad â’r Wylfa. Mae’r moroedd o amgylch Enlli hefyd wedi eu dynodi’n rhyngwladol yn ddiweddar fel Ardal Bwysig Mamaliaid Morol, wrth gydnabod bod llamhidyddion, dolffiniaid trwyn potel, dolffiniaid Risso, dolffiniaid cyffredin a morfilod pigfain i gyd yn defnyddio’r ardal. 

 



Bydd ein prosiect newydd yn canolbwyntio ar gysylltu pobl Pen Llŷn ac Enlli gyda’r mamaliaid morol yn y dyfroedd lleol a bydd yn ddatblygiad o astudiaethau peilot diweddar sydd wedi datblygu’r defnydd o ddrônau i dynnu lluniau dolffiniaid Risso er mwyn creu catalog o unigolion sy’n cael eu hadnabod yn ôl patrymau unigryw esgyll eu cefnau.

 

Byddwn yn contractio dau aelod ychwanegol o staff: 

 

Swyddog Gwyddonol – yn treulio misoedd yr haf ar yr ynys i roi sesiynau gwylio systematig ar waith, i sicrhau delweddau a fideo a datblygu’r catalog, gan ymgorffori delweddau o astudiaethau blaenorol. Disgrifiad swydd yma

 

Swyddog Cymunedol – yn byw ar dir mawr Llŷn ac a fydd yn ymgysylltu’r gymuned ar yr ynys ac ar y tir mawr er mwyn pwysleisio pwysigrwydd y mamaliaid morol yr ardal, sgwrsio gyda grwpiau â diddordeb ac ysgolion, a recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr i gynorthwyo gyda gwylio dolffiniaid.  Byddwn yn recriwtio ar gyfer y ddwy swydd hon yn ystod y mis nesaf felly gwyliwch y gofod hwn!

 

Bydd y prosiect yn cynyddu cofnodi systematig mamaliaid morol yn yr ardal a gosod safon newydd y gellir ei ddefnyddio mewn lleoliadau eraill. 

 

Ariennir y prosiect hwn gan Raglen Rhwydweithiau Byd Natur ac fe’i gwireddir gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.






No comments:

Post a Comment